Episodi

  • Trafod gyda Lauren Albertina-Morais - Cathod Sassy, Beyonce a bod yn ffrind gorau i chdi dy hun
    Oct 31 2021

    CALAN GAEAF HAPUS WITCHEZ! Dyma bennod newydd o Gwrachod Heddiw i ddathlu. Yn y bennod yma, dwi'n siarad hefo'r actor / perfformiwr / bardd / cyfarfwyddwr o fri Lauren Albertina-Morais am yr holl bethau sydd yn ei gwneud hi'n wrachaidd. 

    Mwynhewch Hags, 
    A Plis @iwch fi hefo'ch gwisgoedd gwrachaidd! 

    Byddwch wych, Byddwch Wrachaidd 

    Mostra di più Mostra meno
    1 ora e 3 min
  • Trafod gyda Mhara Starling : Swyngyfaredd, Doethgrefft, Trawsffobia a bwlio.
    Aug 17 2021

    Sgwrs gyda'r swynwraig Mhara Starling am wir ystyr y term "Gwrach". Yn y bennod hir hon o Gwrachod Heddiw, mae Mhara yn sôn am hanes swyngyfaredd a doethgrefft yng Nghymru, ei hanes personol hi a'r rhwystrau mae hi wedi wynebu yn ei bywyd i gyrraedd lle mae hi rŵan.  Sgwrs ddwys, ddigri ac ysbrydol! 

    Byddwch Wych, Byddwch Wrachaidd xoxo

    Mostra di più Mostra meno
    1 ora e 40 min
  • Trafod gyda Mahum Umer : Cynrychiolaeth, Iechyd Meddwl a Ffitio Mewn
    Jul 19 2021

    Sgwrs am Iechyd meddwl, cynrychiolaeth o ferched ifanc Mwslimaidd yn y cyfryngau yng Nghymru a ffitio mewn. Ymunwch hefo Mari Elen mewn sgwrs gwrachaidd hefo'r awdur ifanc Mahum Umer, un o gyd-awduron cyfres y Pump. 

    Mostra di più Mostra meno
    1 ora e 4 min
  • Trafod Hefo Llinos Anwyl
    May 11 2021

    Trafod hefo'r wrach Llinos Anwyl am ei chelf, pwer geiriau, pwysau teulu ar dy hunaniaeth a sut oedd merched yn cosbi dynion oedd yn gneud petha rybish yn yr hen ddyddiau. 

    Mostra di più Mostra meno
    1 ora e 2 min
  • Trafod Hefo Emmy Stonelake
    Apr 20 2021

    Yr actor a’r model Emmy Stonelake ydy’r wrach dwi’n sgwrsio hefo heddiw, am nabod dy hun, cathod, drag race a bod yn ferched blewog ✨ 

    Mostra di più Mostra meno
    1 ora e 2 min
  • Trafod Hefo Mirain Fflur
    Mar 30 2021

    Nabod dy werth, nabod dy gorff a Jini Me Jos. Sgwrs hefo'r perfformiwr / gwneuthiwr theatr a'r artist, Mirain Fflur am yr holl bethau sydd yn ei gwenud hi'r gwrach ydy hi. 
    Mwynhau y podlediad? Hoffwch, tanysgrifiwch a rhowch adolygiad bach. Mae o'n gwneud BYD o wahaniaeth, coeliwch chi fi! Trydarwch gan ddefnyddio #GwrachodHeddiw i adael i mi wybod pa bethau Gwrachaidd 'dachi 'di bod yn gwneud, rhannwch hefo ffrind a sleidiwch mewn i'n DMs i. 

    Bydwch wych, byddwch wrachaidd XOXO

    Mostra di più Mostra meno
    1 ora e 2 min
  • Trafod Hefo Hanna Hopwood Griffiths
    Dec 21 2020

    Heuldro'r Gaeaf Hapus fy swynwragedd ysbennydd!

    Ym mhennod ola'r gyfres mi ydw i'n trafod hefo'r Academwrach hyfryd Hanna Hopwood Griffiths am ferched yr oesoedd canol , gwallt, esgor a sut mae hi'n gwneud ei bywyd hi'n haws. 

    Diolch am eich cefnogaeth yn ystod y misoedd diwethaf, dwi'n lyfio witchez fi. 

    Mostra di più Mostra meno
    1 ora e 3 min
  • Trafod hefo Mama Lleuad
    Dec 9 2020

    Doula, Mam, Gwrach o Waunfawr. Sgwrs hefo'r hyfryd Mama Lleuad (Catrin Jones) am foddion, rhianta, placenta a natur. 

    Mwynhewch! 

    Mostra di più Mostra meno
    1 ora